From Wikipedia, the free encyclopedia
Un o ieithoedd Affro-Asiaidd yw Copteg. Fe'i sieredid yn yr Aifft o'r cyfnod Cristnogol cynnar hyd yr 8g.
Enghraifft o'r canlynol | iaith farw, iaith litwrgaidd, iaith, chronolect |
---|---|
Math | Eiffteg |
Dechreuwyd | 2 g |
Rhagflaenwyd gan | Demotic Egyptian |
Enw brodorol | ϯⲙⲉⲧⲣⲉⲙⲛ̀ⲭⲏⲙⲓ |
Nifer y siaradwyr | |
cod ISO 639-2 | cop |
cod ISO 639-3 | cop |
Gwladwriaeth | Yr Aifft, yr Hen Aifft |
System ysgrifennu | Coptic script |
Corff rheoleiddio | Institute of Coptology |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Yn ieithyddol ystyrir y Gopteg fel cyfnod olaf yr Eiffteg. Arferid ei hysgrifennu mewn gwyddor sy'n gyfuniad o lythrennau yr Wyddor Roeg gyda saith llythyren Ddemotig ychwanegol.
Roedd i'r Gopteg chwe thafodiaith. Yn yr Aifft Uchaf (de'r wlad) y dafodiaith Sahideg oedd y brif ffurf o'r 5fed ganrif ymlaen. Yn yr Aifft Isaf defnyddid y dafodiaith Bohaireg fel iaith eglwysig gan Gristnogion yr Eglwys Goptaidd.
Ceir llenyddiaeth ddiddorol yn y Gopteg (Bohaireg yn bennaf) o gyfieithiadau o destunau ysgythurol Groeg ynghyd â thestunau iaith Gopteg gwreiddiol sy'n adlewyrchu dylanwad Gnostigiaeth a Manicheaeth ar yr eglwys cynnar.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.