From Wikipedia, the free encyclopedia
Coleg addysg bellach yng ngogledd-orllewin Cymru yw Coleg Menai, sydd bellach yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai. Sefydlwyd y coleg ar 1 Awst 1994 [1] yn sgil uno dau goleg, sef Coleg Pencraig, Sir Fôn a Choleg Gwynedd, Bangor.[2][2] Diddymwyd Coleg Menai, yn gorfforaethol, ar 1 Ebrill 2012 [3] pan ddaeth yn rhan o Grŵp Llandrillo Menai. Parheir i ddefnyddio'r enw Coleg Menai wrth gynnig cyrsiau i ddysgwyr a chydweithio a rhanddeiliaid. Dyfarnodd Estyn yn 2017 [4] fod darpariaeth Grŵp Llandrillo Menai yn ardderchog mewn 8 maes a da mewn 7 maes.
Math | sefydliad academaidd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Ynys Môn |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.256°N 4.314°W |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au y DU | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
Lleolir campysau'r coleg yn Llangefni a Chaergybi (Ynys Môn) a Caernarfon, Bangor a Pharc Menai (parc diwydiannol gerllaw Bangor) oll yng Ngwynedd.
Cyflwynir ar gampws Llangefni cyrsiau yn ymwneud â pheirianneg moduron, asio a ffabrigio, astudiaethau cyfryngau, iechyd a gofal, technoleg wybodaeth, sgiliau byw yn annibynnol, crefftau adeiladwaith (saernïaeth, gwaith maen, a phlastro a gwaith bric) a thechnoleg bwyd. Datblygwyd y cyfleusterau yn sylweddol ar y campws ers sefydlu’r Coleg yn 1994. Ychwanegwyd Llyfrgell newydd (gan gynnwys ar y llawr cyntaf ystafelloedd dysgu TGCh) yn 1999, Canolfan Technoleg Bwyd yn 2000 (ymestynnwyd ddwywaith yn ddiweddarach), adeilad Iechyd a Gofal yn 2003, canolfan Adeiladwaith yn 2009, canolfan Ynni yn 2011 a “Chanolfan Cefni” yn 2016. Cynlluniwyd i agor adeilad Peirianneg newydd yn 2019.
Mae safle’r coleg ym Mangor yn cynnwys adeiladau ar y naill ochr a’r llall ar Ffordd Ffriddoedd, sef y coleg technegol a ddatblygwyd yn y 1950au a’r 1960 [5][6] a hefyd cyn adeilad yr ysgol ramadeg Friars. Cyflwynir ym Mangor cyrsiau ym meysydd astudiaethau busnes a gweinyddiaeth, mynediad at Addysg Uwch, Safon Uwch, Saesneg i Siaradwyr Ieithoedd Eraill, peirianneg drydanol a mecanyddol, adeiladwaith, plymio dŵr a nwy, gwyddor chwaraeon, gwyddor fforensig, trin gwallt a therapi harddwch, technoleg cerdd, celfyddydau perfformio, coginio a lletygarwch, teithio a thwristiaeth.
Mae Parc Menai ym Mharc Busnes Bangor yn gartref i gyrsiau celf a dylunio.
Tŷ Cyfle yw enw campws y coleg yng Nghaergybi ac mae adeilad y coleg yng Nghaernarfon wedi’i leoli ar y Maes, yno. Mae'r coleg ar y ddau safle yn hybu mentrau gan gynnwys Rhaglen Sgiliau Sylfaenol, Dychwelyd i Ddysgu a Chymraeg i Oedolion.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.