![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/The_Chase_Wood_-_Newbury.jpg/640px-The_Chase_Wood_-_Newbury.jpg&w=640&q=50)
Coedwig
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal gyda dwysedd uchel o goed yw coedwig (neu fforest). Mae gan goedwig nifer o wahanol ddifiniadau yn seiliedig ar amryw o feini prawf[1]. Diffiniad Geiriadur Prifysgol Cymru yw "Darn helaeth o dir ag amlder o goed a phrysglwyni’n tyfu’n naturiol arno, yn nodedig gynt fel lloches i anifeiliaid gwylltion o bob math, fforest, gwig, llwyn choed yr arferid hela ynddo".[2] Dywed y Sefydliad Bwyd ac Amaeth, mae fforestydd yn gorchuddio tua pedair biliwn hectar (15 miliwn milltir sgwâr).[3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f6/The_Chase_Wood_-_Newbury.jpg/640px-The_Chase_Wood_-_Newbury.jpg)
Gellir dweud mai fforsetydd yw prif ecosystem y Ddaear, ac maent i'w cael ledled y byd.[4] Dyma 75% o gynnyrch cynradd biosffer y Ddaear, ac 80% o fiomas y Ddaear. Ceir coetiroedd dros 250,000ha, sef 12% o arwynebedd Cymru.[5]