gwobr am goed arbennig yn y Deyrnas Unedig From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynhelir cystadleuaeth Coeden y Flwyddyn yn y Deyrnas Unedig bob hydref gan Coed Cadw, elusen cadwraeth. Bob blwyddyn dewisir rhestr fer o o goed enwebedig gan banel o arbennigwyr sy'n mynd ymlaen i bleidlais gyhoeddus ar gyfer pob un o wledydd Prydain. Mae'r panel wedyn yn dewis un o'r rheiny i fod yn Goeden y Flwyddyn a bydd yn cael ei enwebu ar gyfer cystadlaeuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn y flwyddyn ganlynol. Cynhelir y gystadleuaeth yn flynyddol ers 2014.
Mae cystadleuaeth Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn wedi ei gynnal ers 2011 a mae'n dewis coeden o bob gwlad sy'n cymryd rhan (13 erbyn hyn) drwy bleidlais gyhoeddus. Fe'i ysbrydolwyd gan gystadleuaeth genedlaethol a gynhaliwyd yn y Weriniaeth Tsiec. Mae rhan fwyaf o wledydd yn cynnal pleidlais genedlaethol i ddewis ei cynnig bob blwyddyn.[1] Enwebir y coed yn y flwyddyn cyn gwobrwyo'r enillydd. Ni gystadlodd y Deyrnas Unedig hyd 2013 pan enwebwyd Derwen Niel Gow o'r Alban a Derwen Adwy'r Meirwon o Gymru ar gyfer gwobr 2014. Daeth y coed yma yn seithfed a nawfed allan o'r 10 cynnig y flwyddyn honno.[2] Y flwyddyn ganlynol cymerodd Coed Cadw, yr elusen gadwraeth, gyfrifoldeb am enwebu cynigion Prydeinig i'r gystadleuaeth. Cychwynnodd gystadleuaethau cenedlaethol yn Lloegr, Cymru a'r Alba.[3] Enwebwyd enillwyr y cystadleuaethau yma i wobrau Coeden Ewropeaidd y Flwyddyn ar gyfer 2015.[4] yn 2015, ehangwyd y gwobrau Prydeinig i gynnwys Gogledd Iwerddon. Amrywiodd Coed Cadw y fformat yn 2016 gan gynnwys rownd ychwanegol i ddewis un coeden ar gyfer gwledydd Prydain i gyd. Cafodd pob enillydd cenedlaethol eu henwebu i'r gystadleuaeth Ewropeaidd n. O 2017 ymlaen, dim ond un enillydd o wledydd Prydain bydd yn cael ei enwebu i'r gwobrau Ewropeaidd.[5]
Cynhelir y pedwar cystadleuaeth genedlaethol ym mis Medi a Hydref a dewisir yr enillydd drwy bleidlais gyhoeddus ar wefan Coed Cadw. Gellir enwebu coeden gan unrhyw unigolyn neu gorff erbyn mis Awst a dewisir rhestr fer gan banel o arbennigwyr annibynnol i fynd ymlaen i bleidlais gyhoeddus. Mae pob enillydd cenedlaethol yn derbyn grant o £1,000 gan Loteri Côd-post y Bobl i'w ddefnyddio ar gyfer unrhyw bwrpas yn ymwneud a'r goeden - gallai hyn amrywio o archwiliad i brofion cyflwyr, gwaith adfer, plac, arwyddion neu ddathliad.[3] Mae rhai o'r enwebiadau hefyd yn derbyn grantiau o £500.[6][7] Yn dilyn y bleidlais gyhoeddus dewisir un o'r pedwar coeden gan banel o arbennigwyr i ddod yn Goeden y Flwyddyn, Gwledydd Prydain a fe'i enwebir fel cystadleuydd Prydeinig ar gyfer y gwobrau Ewropeaidd, lle mae pleidleisio yn cymryd lle drwy Ionawr a Chwefror y flwyddyn ganlynol.[7][8] Yn 2018 newidiwyd y fformat fel fod y dewis Prydeinig yn cael ei ddewis gan bleidlais gyhoeddus mewn cyd-weithrediad a rhaglen The One Show y BBC gyda'r enillydd i'w gyhoeddi ym mis Hydref.[7]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.