cymuned ym mwrdeisdref sirol Casnewydd From Wikipedia, the free encyclopedia
Cymuned yn ninas Casnewydd yw Coedcernyw (Saesneg: Coedkernew). Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 573.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 2,187 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Casnewydd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.5503°N 3.0398°W |
Cod SYG | W04000814 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jayne Bryant (Llafur) |
AS/au y DU | Ruth Jones (Llafur) |
Saif i'r gorllewin o ddinas Casnewydd, ychydig tu allan i'r ardal adeiledig. Mae'r draffordd M4 yn mynd trwy'r gymuned, a cheir ei chyffordd a'r briffordd A48 yma. Yng ngogledd a gorllewin y gymuned, mae'r boblogaeth yn tyfu fel mae ardal adeiledig y Dyffryn yn ymestyn.
Ceir gweddillion siambr gladdu o'r cyfnod Neolithig ym Mharc Cleppa. Adeilad mwyaf nodedig y gymuned yw Tredegyr, plasdy oedd yn gartref i deulu Morgan o 1660 hyd 1951. Mae'r rhan fwyaf o'r tŷ presennol, sy'n awr yn eiddo Cyngor Sir Casnewydd, yn dyddio o'r cyfnod 1660-1718.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jayne Bryant (Llafur) ac yn Senedd y DU (San Steffan) gan Ruth Jones (Llafur).[1][2]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Coedcernyw (pob oed) (2,183) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Coedcernyw) (199) | 9.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Coedcernyw) (1536) | 70.4% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Coedcernyw) (111) | 12% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.