![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/97/Egbert_codex.jpg/640px-Egbert_codex.jpg&w=640&q=50)
Codecs
llawysgrif ar ffurf llyfr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Llawysgrif ar ffurf llyfr yw codecs (lluosog: codecsau; Lladin: codex). Yn yr Henfyd, ffurf arferol dogfen o unrhyw hyd sylweddol oedd y sgrôl, sef darn di-dor, hir o bapyrws neu femrwn a fyddai'n cael ei rolio i'w gadw'n ddiogel. Mae'n ymddangos bod y syniad o ysgrifennu ar ddalenni o bapyrws neu femrwn o'r un maint a'u rhwymo rhwng cloriau i mewn i un gyfrol wedi datblygu yn y 1g OC. Mae'r disgrifiad cyntaf o'r peth newydd hwn i'w gael yn ysgrifau bardd Rhufeinig Martial (tua 38–104 OC), a ganmolodd y codecs am ei hwylustod. Mae ymlediad y codecs yn gysylltiedig â chynnydd Cristnogaeth, a fabwysiadodd y fformat ar gyfer y Beibl yn gynnar.[1] Erbyn y 6g roedd y codecs wedi disodli'r sgrôl yn yr Ymerodraeth Rufeinig.
![]() | |
Math | llawysgrif, arteffact archaeolegol, arteffact ![]() |
---|---|
Yn cynnwys | finish ![]() |
![]() |
Er y gallai llyfrau printiedig modern gael eu galw'n godecsau, mae'r enw wedi'i gadw ar gyfer llyfrau llawysgrifau yr Henfyd a'r Oesoedd Canol yn unig.