rhywogaeth o adar From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Coch y Berllan yn perthyn i'r teulu Fringillidae. Mae'n aderyn bach sy'n nythu ar draws Ewrop a gogledd Asia.
Coch y Berllan | |
---|---|
Ceiliog | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Chordata |
Dosbarth: | |
Urdd: | Passeriformes |
Teulu: | Fringillidae |
Genws: | Pyrrhula |
Rhywogaeth: | P. pyrrhula |
Enw deuenwol | |
Pyrrhula pyrrhula (Linnaeus, 1758) | |
Mae Coch y Berllan yn nythu mewn coedydd neu gymysgedd o goedydd a chaeau. Adeiledir y nyth mewn coeden neu wrych, gan ddodwy rhwng 4 a 7 wy fel arfer. Hadau o wahanol fathau yw'r prif fwyd, ond mae hefyd yn bwyta blagur coed ffrwythau yn y gaeaf, ac oherwydd hyn mae'n cael ei ystyried yn bla gan dyfwyr ffrwythau. Nid yw'n aderyn mudol fel rheol, ond mae adar o'r rhannau mwyaf gogleddol yn symud tua'r de yn y gaeaf. Yn aml mae i'w weld mewn grwpiau o ryw hanner dwsin o adar; nid yw'n ffurfio'n heidiau mawr fel llawer o'r llinosiaid.
Mae'r ceiliog yn arbennig yn aderyn hawdd ei adnabod, gyda chefn llwyd, cap du ar y pen a'r bol yn goch. Llwydfrown yw bol yr iâr a'r adar ieuanc, ond maent i gyd yn dangos darn gwyn mawr wrth fôn y gynffon wrth hedfan i ffwrdd, ac mae'r pig byr, tew hefyd yn nodweddiadol.
Yng Nghymru mae'n aderyn gweddol gyffredin, er fod y niferoedd wedi gostwng rhywfaint yn y blynyddoedd diwethaf.
Mae'n weddol niferus trwy'r flwyddyn ond yn fwy clytiog ei ddosbarthiad yn y gorllewin eithaf a phrin yn yr ucheldir ar wahân i ardaloedd a goedwigwyd yn ddiweddar. Mae'n gysylltiedig â gwrychoedd a gerddi trwchus o ddrain a drysni a haenau isaf coedlannau. Oherwydd y pori trwm a fu a ataliodd datblygiad y drysni hyn nid yw ei boblogaeth yn wastad o gymharu â phincod eraill. Fodd bynnag, er gwaethaf gwisg trawiadol y ceiliog mae'n rhywogaeth swil ac o'r herwydd yn cael ei dan-gyfrif mewn cyfrifiadau. Dywedir i'w niferoedd gael eu dylanwadu yn awr gan drai y gwalch glas yn yr 1980au, dro arall gan gyfnodau ffafriol ym mhroses twf ôl-ryfel y planhigfeydd conwydd, neu yn y de, adferiad y tir a fu'n waddol y diwydiant glo. Un arferiad nid anghyffredin yw ymborthi yn yr ucheldiroedd yn y gaeaf, weithiau yn gysylltiedig â phlanhigfeydd, ar ysbrigau grug yn ymwthio trwy'r lluwch eira, a chan ddefnyddio'r eira fel llwyfan i'w cyrchu[1]
Mae hil Prydeinig a Gwyddelig P.p. pileata yn endemig ac yn nodweddiadol llai disglair ei liw (y gwryw?) ac yn dywyllach (y fenyw?) na'r hil P.p. pyrrhula o ogledd Ewrop. Mae'r cyntaf yn dueddol o fod yn eisteddog a disymyd - ffaith a gadarnheir gan ddata oddi wrth 28 aderyn modrwyog o Gymru a ail-ddaliwyd ac na chafwyd ond dau ohonynt oedd wedi symyd rhagor na 10 km o'r man y'i modrwywyd. Mae adar o'r cyfandir yn fwy tueddol o symyd yn y gaeaf yn ôl y cyflenwad bwyd gan amlaf, efallai ar batrwm cylchol o dair neu bedair blynedd. Gallasai adar o'r math wedi bod yn gyfrifol am fintai o 16 coch y berllan a wyliwyd o oleulong Caernarfon yn hedfan tua'r de-ddwyrain yn Hydref 1885. Cofnodwyd symudiadau tebyg a dybir yn rhai o hil y gogledd yn amlach ar Ynys Enlli na gweddill ynysoedd Cymru. Roedd cofnod o 30 aderyn ym 1988 ym Mhenfro yn nodedig.[1]
Casglodd Dewi Lewis[2] 11 o enwau neu ffurfiau Cymraeg ar goch y berllan, fel a ganlyn:
Yn 1897 ysgrifennodd ohebydd yn y Cylchgrawn ''Cymru''[3] erthygl hir am goch y berllan yn cynnwys yr hanesyn hwn:
Mater o farn mae'n debyg yw addasrwydd yr enw chwibanydd![4]
Bu'n arfer gan y Cymru i gadw adar coch y berllan mewn cewyll yn y cartref fel y tystia'r adroddiad canlynol o Lys Manddyledion Caernarfon am fargen gwael:
Roedd hefyd ddosbarth cystadleuol i'r rhywogaeth yn y 'ffansi':
Ystyriwyd ac ystyrir coch y berllan yn ddinistriol ym mherllanau afalau yn y gororau ac fe'i hepgorid o warchodaeth llwyr y ddeddf gwarchod adar o gyfnod cynnar yn hanes cadwraeth bywyd gwyllt, ond nid trwy unfrydiaeth yng Nghymru mae'n debyg, fel y tystia'r adroddiad hwn o Gaerfyrddin, ardal nad oedd ganddi berllannau masnachol sylweddol:
Dyma gasgliad o waith ymchwil plant Ysgolion Llangoed a Biwmares (Bro Seiriol), Ynys Môn[8]:
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.