From Wikipedia, the free encyclopedia
Clogyn 23-carat aur mewn un-darn yw Clogyn aur Yr Wyddgrug neu Fantell aur Yr Wyddgrug sy'n dyddio o'r cyfnod 1900-1500 CC yn Oes yr Efydd. Fe'i darganfuwyd mewn cae o'r enw 'Bryn yr Ellyllon', Pentre, ger Yr Wyddgrug yn Sir y Fflint yn 1833. Mae'n bosibl y bu'n rhan o wisg seremonïol, mewn cyd-destun crefyddol efallai. Fe'i cedwir yn yr Amgueddfa Brydeinig yn Llundain, ac mae nifer o archaeolegwyr blaenllaw Cymru wedi galw ar yr amgueddfa i ddychwelyd y clogyn i Gymru.
Enghraifft o'r canlynol | darganfyddiad archaeolegol |
---|---|
Deunydd | aur |
Gwlad | Cymru |
Dechrau/Sefydlu | 11 Hydref 1833 |
Lleoliad | yr Amgueddfa Brydeinig |
Perchennog | yr Amgueddfa Brydeinig |
Gwladwriaeth | y Deyrnas Unedig |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Darganfuwyd y "clogyn" gan ddynion codi cerrig ym Mryn yr Ellyllon, ger Yr Wyddgrug, ar 11 Hydref 1833. Tenant y cae oedd Langford, ac fe'i gwerthwyd i'r Amgueddfa Brydeinig yn 1836. Mwynfeydd Copr y Gogarth oedd y mwyaf drwy ogledd-orllewin Ewrop yr adeg honno, ac mae'n bosib fod gan berchennog y fantell gysylltiad gyda mwynfeydd y Gogarth.[1] Dywedodd Dr Paul Belford (CPAT ei bod yn fwy na thebyg i'r fantell gael ei lunio yng Nghymru ond i'r aur ddod o'r Iwerddon; nododd hefyd fod y fantell hon yn "anrhaethol bwysig". Roedd gweitiau trin copr y Gogarth yn ardal y Fflint, lle roedden nhw hefyd yn trin efydd o Llanymynech, hyd at Oes yr Haearn.
Cloddiodd archaeolegwyr o Amgueddfa Genedlaethol Cymru y cae lle darganfuwyd y fantell eto yn 2013.
Roedd y fantell yn gorwedd ar weddilion dynol wedi'u corfflosgi, mewn cistfaen glai, oddi mewn i garnedd gladdu o Oes yr Efydd. Dim ond darnau o'r sgerbwd oedd yn gyfan ac roedd y "clogyn" wedi cael ei niweidio'n sylweddol trwy ei wasgu. Cofnodwyd y canfyddiad gan ficar yr Wyddgrug. Roedd tua 200-300 gleiniau ambr arno'n wreiddiol, mewn rhesi, ond dim ond un sy'n weddill erbyn heddiw. Gerllaw cafwyd darn o liain garw a 16 dryll o efydd panel a fu ar gefn y gwrthrych aur efallai: mewn mannau roedd yr aur wedi ei bwytho i'r aur gyda rivets efydd. Roedd yno ddau 'strap' hefyd. Yn ymyl y gistfaen roedd llestr (urn) yn cynnwys esgyrn llosgedig a lludw, tua 0.6–0.9 m o'r bedd.
Lled y gwrthrych yw 458 mm (18 modfedd). Mae hynny'n awgrymu iddo gael ei fwriadu ar gyfer rhywun o gorffolaeth ysgafn ac mae archaeolegwyr yn meddwl ei fod ar gyfer merch.
Mae'r clogyn enwog yn un o'r trysorau o Gymru yn yr Amgueddfa Brydeinig y mae nifer o bobl wedi bod yn galw am eu dychweliad i gartref yng Nghymru. Cafwyd arddangosfa ar fenthyg yn Yr Wyddgrug yn 2002 ac eilwaith yn 2013, ond mae'r Amgueddfa Brydeinig yn gyndyn iawn i adael i'r clogyn a gwrthrychau eraill – fel eu casgliad o feini ogam Cymreig sydd ar gadw mewn storfa – ddod yn ôl i Gymru. Yn ôl Dr Paul Belford (CPAT), "The British Museum acted as an agent of the imperialist mission, carefully curating treasures stolen from around the world as part of the wider colonial exploitation."
Ar 17 Ionawr 2017 ryddhaodd y Swyddfa Bost stamp yn dylunio'r fantell aur.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.