![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/5/51/Synanthedon_culiciformis.jpg/640px-Synanthedon_culiciformis.jpg&w=640&q=50)
Cliradain wregysgoch fawr
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwyfyn sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw cliradain wregysgoch fawr, sy'n enw benywaidd; yr enw lluosog ydy cliradenydd gwregysgoch mawr; yr enw Saesneg yw Large Red-belted Clearwing, a'r enw gwyddonol yw Synanthedon culiciformis.[2][3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/b/b6/Synanthedon_culiciformis_damage.jpg/640px-Synanthedon_culiciformis_damage.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/3b/Synanthedon_culiciformis_larva.jpg/640px-Synanthedon_culiciformis_larva.jpg)
Ffeithiau sydyn Synanthedon culiciformis, Dosbarthiad gwyddonol ...
Synanthedon culiciformis | |
---|---|
![]() | |
![]() | |
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | Insecta |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Sesiidae |
Genws: | Synanthedon |
Rhywogaeth: | S. culiciformis |
Enw deuenwol | |
Synanthedon culiciformis (Linnaeus, 1758)[1] | |
Cyfystyron | |
|
Cau
Gellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd. Wedi deor o'i ŵy mae'r gliradain wregysgoch fawr yn lindysyn sydd yn bwydo tu fewn i foncyffion bedw a gwern, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.