![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/d/db/Cilybebyll_Church_-_geograph.org.uk_-_133383.jpg/640px-Cilybebyll_Church_-_geograph.org.uk_-_133383.jpg&w=640&q=50)
Cilybebyll
pentref / From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-Nedd Port Talbot, Cymru, yw Cilybebyll.[1][2] Saif i'r dwyrain o dref Pontardawe ac i'r gogledd o dref Castell-nedd, ac roedd y boblogaeth yn 2001 yn 4,806.
Ffeithiau sydyn Math, Poblogaeth ...
![]() | |
Math | cymuned, pentrefan ![]() |
---|---|
Poblogaeth | 4,769 ![]() |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot ![]() |
Gwlad | ![]() |
Arwynebedd | 2,061.58 ha ![]() |
Cyfesurynnau | 51.719°N 3.83°W ![]() |
Cod SYG | W04000606 ![]() |
Cod OS | SN7404 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au | Christina Rees (Llafur) |
![]() | |
Statws treftadaeth | Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig ![]() |
Manylion | |
Cau
Heblaw pentref Cilybebyll, mae'r gymuned yn cynnwys pentrefi Allt-wen, Rhos a Gelli-nudd. Magwyd y bardd Gwenallt yn Allt-wen, a chymerodd ei enw barddol o enw'r pentref.
Ym Medi 2011 cafwyd trychineb yng Nglofa Gleision, ger y pentref pan laddwyd pedwar glöwr lleol.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Christina Rees (Llafur).[4]