![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f4/Epagneul_Breton.jpg/640px-Epagneul_Breton.jpg&w=640&q=50)
Ci Llydaw
From Wikipedia, the free encyclopedia
Brîd o gi adar sy'n tarddu o Lydaw yw Ci Llydaw. Fe'i elwir yn sbaengi gan rhai, ond mae'n debycach i gyfeirgi bychan. Yn y cae mae'n marcio'r adar ac yn eu dwyn yn ôl i'r heliwr.
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol ...
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi ![]() |
---|---|
![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/a/af/Brittany_Spaniel_standing.jpg/640px-Brittany_Spaniel_standing.jpg)
Ci canolig ei faint yw Ci Llydaw sy'n sefyll tua 44.5 i 52 cm ac yn pwyso 13.5 i 18 kg. Mae'r mwyafrif yn ddigynffon neu'n fyrgwt, a chaiff cynffonnau hir eu tocio'n hyd 10 cm. Mae ganddo gôt o flew gwastad gyda bacsiau ar y clustiau, y dor a'r coesau. Gan amlaf mae ganddo liw oren a gwyn neu ddugoch a gwyn, ond gall hefyd fod yn ddu a gwyn neu'n drilliw.[1]