Ci Defaid Barfog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ci defaid sy'n tarddu o'r Alban yw'r Ci Defaid Barfog. Cafodd ei ddatblygu i sodli defaid a gyrru gwartheg i'r farchnad. Mae hwn yn un o'r bridiau hynaf o gŵn o Brydain.[1]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Math ...
Enghraifft o'r canlynol | brîd o gi |
---|---|
Math | ci |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau
Mae ganddo gôt hirflew sy'n gorchuddio'r clustiau llipa, y gynffon, y coesau, a'r trwyn a'r geg, gan roi iddo ei enw. Gall ei flew fod o liw du, glas, melynllwyd, neu frown, ac yn aml gyda smotiau mawr gwyn ar y coesau a'r traed, y bol, y frest, y gwddf, y wyneb, a blaen y gynffon. Mae ganddo daldra o 51 i 56 cm (20 i 22 modfedd). Mae'n gi hwyliog, ffyddlon, bywiog, a chwareus ac yn gi gymar da ac yn anifail anwes addas i'r teulu.[1]