![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/e/e7/Cheilanthes_Lane_Cove_River.jpg/640px-Cheilanthes_Lane_Cove_River.jpg&w=640&q=50)
Cheilanthes sieberi
From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhedyn bach sy'n tyfu mewn sawl rhan o Awstralia, Aotearoa ac ynysoedd cyfagos yw Cheilanthes sieberi . Daw'r enw botanegol o'r Groegaidd kheilos am wefys ac anthos, sef blodyn sydd yn cyfeirio at yr indwsiwm. [2], a daw 'sieberi' i gofio am y naturiaethwr Almaenig F. Wilhelm Sieber (1789-1844) Mae enwau cyffredin Saesneg yn cynnwys poison rock fern a mulga fern. [3]
Cheilanthes sieberi | |
---|---|
![]() | |
Rock fern growing by the Lane Cove River, Australia | |
Dosbarthiad gwyddonol ![]() | |
Unrecognized taxon (fix): | Cheilanthes |
Rhywogaeth: | C. sieberi |
Enw deuenwol | |
Cheilanthes sieberi (Kunze) | |
Cyfystyron[1] | |
Nodyn:Species list |
Gall y rhedyn hwn dyfu hyd at 25 cm o daldra. Mae'n blanhigyn eang, a welir mewn amrywiaeth o wahanol gynefinoedd: mae i'w gael mewn ardaloedd cras yn ogystal â safleoedd gyda dros 1500 mm o lawiad cyfartalog blynyddol. Mewn ardaloedd anial mae'n tyfu mewn rhigolau creigiog cysgodol. Fodd bynnag, ger yr arfordir, gall dyfu yn llygad yr haul mewn hollt o fewn creigiau, neu mewn priddoedd bas.