From Wikipedia, the free encyclopedia
Tref yn nhalaith Mahdia, Tiwnisia yw Chebba. Mae'n gorwedd ar lan y Môr Canoldir tua 30 km i'r de o ddinas Mahdia a thua 80 km i'r gogledd o Sfax. Roedd 19,883 o bobl yn byw yno yn 2004.[1]
Ger La Chebba, ar bentir Ras Kaboudia, ceir adfeilion ribat (caer neu gastell) Bordj Kjadidja, a adeiladwyd ar sylfeini o gyfnod yr Ymerodraeth Fysantaidd. Roedd yn rhan o gadwyn o gaerau a godwyd gan yr Abbasiaid ar hyd arfordir Sahel Tiwnisia yn yr 8g OC. Codwyd y gaer Fysantaidd i amddiffyn tref hynafol Caput Vada; glaniodd y cadfridog Bysantaidd Belisarius yno yn 533 OC ar gychwyn ei ymgyrch llwyddiannus yn erbyn y Fandaliaid. Ailenwyd y dref yn Justinianopolis gan y Bysantiaid.
Ceir brithluniau (mosaics) Rhufeinig o Caput Vada yn Amgueddfa'r Bardo yn Nhiwnis.
Bu protestiadau yn erbyn llywodraeth Zine Ben Ali yn Chebba yn ystod intifada Tiwnisia.[2]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.