From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd y Charrúa yn bobl frodorol Amerindian, oedd yn trigo lle mae gwladwriaeth fodern Wrwgwái heddiw[1] ac ardaloedd cyfagos yr Ariannin ac Brasil. Credir i'r Charrúa fudo i'r ardal oddi wrth bobl y Guaraní oddeutu 4,000 mlynedd yn ôl.[2] [3][4] Roeddynt yn bobl lled-nomadig oedd yn cynnal eu hunain drwy heloa a hel bwyd. Byddant yn symud gyda'r tymhorau a'r ysglyfaeth.[5] Roedd glaw, sychder a ffactorau amgylcheddol eraill yn gyfrifol am eu mudo cyson ac fe'i gelwir yn "nomadas estacionales"; nomadiaid tymhorol.[5]
Enghraifft o'r canlynol | pobloedd brodorol |
---|---|
Poblogaeth | 6,397, 42 |
Enw brodorol | Charrua |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Ychydig iawn a wyddir am y Charrua cyn dyfodiad y concwerwyr Sbaeneg. Nododd croniclwyr megis yr Iesuwr, Pedro Lozano, mae'r Charrúan laddodd y teithwir Sbaenaidd, Juan Díaz de Solís yn ystod ei fordaith yn 1515 fyny aber y Río de la Plata. Dangosodd hyn fod y Charrúam yn barod i wrthwynebu'r concwerwyr Sbaenaidd.[6] Yn dilyn mudo coloneiddwyr o Ewrop fe wrthwynebodd y Charrúa a'r Chana y mewnfudwyr yn chwyrn.
Daeth tranc y Charrúa o ddifri yn ystod teyrnasiad arlywydd cyntaf y wlad, Fructuoso Rivera. Er bod gan Rivera berthynas dda gyda'r Charrúa i chwyn fe waethogodd pethau wrth i awch y bobl gwyn am dir arwain at wrthdarro[7]. Fe drefnodd felly gyrch hil-laddiad yn 1831 a alwyd yn La Campaña de Salsipuedes. Roedd tair gwahanol cyrch mewn tair lle gwahanol i'r ymgyrch; "El Paso del Sauce del Queguay", "El Salsipuedes", a llwybr a alwyd yn "La cueva del Tigre".[5] Yn ôl y sôn, fe dwyllwyd y brodorion gan Fructuoso Rivera oedd yn adnabod arweinwyr y llwythi. Galwodd nhw draw i'w faracis wrth yr afon a adnebir heddiw fel Salsipuedes. Gan esgus ei fod angen cymorth y Charrua i amddiffyn ei diriogaeth, awgrymodd y ddylient ddod at ei gilydd mewn cynghrair. Ond pan oedd y Charrúas wedi meddwi ac wedi ymlacio, fe ymosododd y Sbaenwyr arnynt. Yn dilyn hyn helwyr y Charrias oedd wedi dianc neu nad oedd yn bresenol.
Dywedir ers 11 Ebrill 1831, pan lansiwyr ymgyrhc y 'Salsipuedes' ("dihangwch os gallwch") gan grwp a lansiwyd gan Bernabé Rivera, nai Fructuoso Rivera, fod y Charrúa yn swyddogol wedi ei difa fel pobl.
Mae pobl Wrwgwái yn galw ei hunain yn "charrúa" wrth drafod ei hunain mewn cystadleuaeth gyda phobl dramor. Byddant yn cyfeirio at ddewrder wrth wynebu gwrthwynebwyr mwy. Defnyddir y term "garra charrúa" (Charrúan ternacity) i gyfeirio at fuddugoliaeth yn wyneb disgwyl colli.
Ceir mynwent Charrúa yn Piriápolis yn Departement Maldonado Department.[8]
Gelwir Tîm pêl-droed cenedlaethol Wrwgwái yn "Los Charrúas" a hefyd tîm rygbi lleol yn Porto Alegre yn 'Charrua Rugby Clube'.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.