Charles Ashton (actor)
actor (1884-1968) / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor ffilm o Loegr oedd Charles Henry Ashton (1884 – 1968). Cafodd yrfa hir yn actio mewn ffilmiau Prydeinig yn y 1920au a'r 1930au.
Actiodd yn ei ffilm gyntaf yn 1920. Roedd yn adnabyddus yn ei ddydd fel actor mewn ffilmiau mud ond, fel llawer o actorion ffilm mud eraill, cafodd hi'n anodd addasu i ofynion y ffilmiau sain newydd o ddiwedd y 1920au ymlaen.
Serenodd gyda Malvina Longfellow yn y ffilm The Last King of Wales (1922), sy'n seiliedig ar hanes blynyddoedd olaf Llywelyn Ein Llyw Olaf.
Wedi ei yrfa fel actor ddod i ben daeth yn awdur nofelau ffuglen rhad.[1]