cwmwd canoloesol sydd yn Sir Ddinbych heddiw From Wikipedia, the free encyclopedia
Ardal yng ngogledd-ddwyrain Cymru yw Ceinmeirch a fu'n gwmwd canoloesol ac sy'n fro yn Sir Ddinbych heddiw. Yn yr Oesoedd Canol roedd yn un o dri chwmwd cantref Rhufoniog (yn hanesyddol, fe'i adnabyddir hefyd fel Cymeirch ac weithiau fel Cwmwd Ystrad).
Math | cwmwd |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Rhufoniog, y Berfeddwlad |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | Cymru |
Gerllaw | Afon Clywedog (Clwyd) |
Yn ffinio gyda | Is Aled, Rhufoniog, Colion, Dogfeiling |
Cyfesurynnau | 53.170755°N 3.422347°W |
Gorweddai cwmwd Ceinmeirch yn ne-ddwyrain cantref Rhufoniog yn y Berfeddwlad rhwng Afon Lliwen ac Afon Clywedog, gan godi o ochr orllewinol Dyffryn Clwyd i gyfeiriad ardal Mynydd Hiraethog.
Ffiniai ag Is Aled yn Rhufoniog i'r gorllewin a chwmwd Colion a rhan o gwmwd Dogfeiling yng nghantref Dyffryn Clwyd i'r dwyrain.
Lleolwyd llys y cwmwd yn Ystrad Owen, lle daw ffrwd fechan i lawr i Afon Ystrad, tua 2 filltir i'r de o dref Dinbych heddiw. Yna y ceid Llys Gwenllian, o fewn Castell mwnt a beili gyda maerdref gerllaw. O Lys Gwenllian rhedai'r Lôn Werdd (y Greenway ar fap yr Ordnans) yn llinyn syth i eglwys Llanrhaeadr.[1]
Yn ddiweddarach daeth yn rhan o Arglwyddiaeth Dinbych ac yna'r hen Sir Ddinbych ac wedyn Clwyd.
Heddiw mae'r rhan fwyaf o'r hen gwmwd yn gorwedd yn Sir Ddinbych gyda rhan fechan ym mwrdeistref sirol Conwy. Mae'r rhan sydd yn Sir Ddinbych yn cael ei adnabod fel bro Ceinmeirch.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.