Caws Parmigiano-Reggiano
From Wikipedia, the free encyclopedia
Math o gaws o'r Eidal yw caws Parmesan (Eidaleg: Parmigiano; yn fwy penodol, Parmigiano reggiano (Ynganiad Eidaleg: [ˌparmiˈdʒaːno redˈdʒaːno]). Mae'n gaws caled, cryf a ddefnyddir gan amlaf gyda bwydydd pasta. Mae'r enw "Parmesan", sef y Rhanbarth "Parma", yn cael ei ddefnyddio fel term cyffredinol am yr holl amrywiadau lleol; ond erbyn hyn (2017), ni chaniateir ei ddefnyddio wrth farchnata'r caws oherwydd deddfau Ewropeaidd.[1] Fel rheol mae'r caws yn cael ei grafu dros y bwyd.
Enghraifft o'r canlynol | type of cheese |
---|---|
Math | Grana Cheese |
Deunydd | llaeth, calf rennet |
Label brodorol | Parmigiano Reggiano |
Enw brodorol | Parmigiano Reggiano |
Gwefan | https://www.parmigianoreggiano.com/en/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Prif ardal cynhyrchu caws Parmesan yw rhanbarth Emilia-Romagna yng ngogledd canolbarth yr Eidal. Fe'i henwir ar ôl dinas hynafol Parma yn y rhanbarth honno, ond mae'r ardal cynhyrchu yn ymestyn ar draws Emilia-Romagna.
Cyfeiria ail ran yr enw at Ranbarth Reggiano, neu o leiaf at y tir i'r dwyrain o afon Reno a chaiff hefyd ei gynhyrchu yn rhanbarthau Parma, Modena, Emilia-Romagna a Mantova yn Lombardia. Dim ond cawsiau yn yr ardaloedd hyn gaiff eu galw'n gawsiau Parmigiano-Reggiano a'r cyfieithiad "Parmesan".