Catrin Finch
telynores o Gymraes / From Wikipedia, the free encyclopedia
Telynores yn wreiddiol o Lanon, Ceredigion yw Catrin Finch (ganwyd 24 Ebrill 1980).
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Dinasyddiaeth ...
Catrin Finch | |
---|---|
![]() Catrin Finch yn ngŵyl An Oriant, 2008 | |
Ganwyd | 24 Ebrill 1980 ![]() Ceredigion ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | academydd, cerddor ![]() |
Swydd | Official Harpist to the Prince of Wales ![]() |
Cyflogwr | |
Gwobr/au | Q113031066 ![]() |
Gwefan | http://www.catrinfinch.com/ ![]() |
Cau
Cafodd ei gwersi telyn cyntaf gan Elinor Bennett pan nad oedd ond wyth oed. Bu yn Ysgol Purcell yn Llundain pan oedd yn 16 oed, gan astudio dan law Skaila Kanga, ac aeth ymlaen wedyn i'r Academi Gerdd Frenhinol yn Llundain.
Enillodd Gystadleuaeth Telyn Ryngwladol Lily Laskine yn 1999 un o brif wobrau'r byd i'r delyn, ac enillodd Gyfweliadau Rhyngwladol Artistiaid Cyngerdd Ifanc yn Efrog Newydd. Mae wedi teithio yn eang yn yr Unol Daleithiau.
Mae wedi gweithio gyda Karl Jenkins, Bryn Terfel, James Galway, Julian Lloyd-Webber a Katherine Jenkins.
Fe'i penodwyd yn delynores frenhinol i Dywysog Cymru yn y flwyddyn 2000.