![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/9d/Rhuddlan_Castle%252C_May_2012.jpg/640px-Rhuddlan_Castle%252C_May_2012.jpg&w=640&q=50)
Castell Rhuddlan
castell yn Rhuddlan, Sir Ddinbych / From Wikipedia, the free encyclopedia
Castell ar ymyl tref Rhuddlan yn Sir Ddinbych yw Castell Rhuddlan. Castell Cymreig oedd Castell Rhuddlan yn wreiddiol ond fe wnaeth y Normaniaid ei adnewyddu a'i atgyweirio a daeth i feddiant coron Lloegr ar ôl hynny.
![]() | |
Math | castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Rhuddlan ![]() |
Sir | Sir Ddinbych |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 19.6 metr, 19.8 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 53.2892°N 3.46425°W ![]() |
Rheolir gan | Cadw ![]() |
![]() | |
Perchnogaeth | Cadw ![]() |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd I, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | FL004 ![]() |
Saif y castell wrth ryd strategol ar Afon Clwyd. Mae'n bosibl mai yma neu gerllaw yr ymladdwyd Brwydr Morfa Rhuddlan yn 795. Cododd y brenin grymus Gruffudd ap Llywelyn gastell yma yn 1063 a'i wneud yn sedd frenhinol. Ond llosgwyd y castell hwnnw gan y Saeson pan anfonodd Harold, brenin Lloegr, fyddin i ogledd Cymru.
Yn 1073 codwyd castell mwnt a beili yno gan y Normaniaid ar orchymyn Gwilym Gwncwerwr. Tyfodd bwrdeistref fechan yng nghysgod y castell.
Yn 1277 codwyd castell cadarn ar y safle gan Edward I o Loegr, a'i defnyddiodd fel ei brif ganolfan yn y gogledd yn ei ymosodiad ar Wynedd i geisio dymchwel Llywelyn ap Gruffudd. Yno yn 1284, ar ôl gorchfygu Llywelyn, cyhoeddodd Edward I Statud Rhuddlan, a fyddai'n gweddnewid gweinyddiaeth Cymru.
Bu gwarchae ar y castell gan Cymry'r Gogledd dan arweiniad Madog ap Llywelyn yng ngwrthryfel Cymreig 1294. Dros ganrif yn ddiweddarach ymsododd Owain Glyndŵr arno; ni chipiwyd y castell ond llosgwyd y dref gaerog o'i gwmpas.