![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/60/NeathCastleRemains.jpg/640px-NeathCastleRemains.jpg&w=640&q=50)
Castell Castell-nedd
castell a godwyd gan y Normaniaid / From Wikipedia, the free encyclopedia
Castell a godwyd gan y Normaniaid yw Castell Castell-nedd, ac a roddodd ei enw i'r dref a dyfodd o'i gwmpas, sef Castell-nedd, tref sirol Castell-nedd Port Talbot yn ne Cymru.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() Adfeilion Castell Castell-nedd. | |
Math | castell, safle archaeolegol ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Lleoliad | Castell-nedd ![]() |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | ![]() |
Uwch y môr | 9.6 metr, 9.7 metr ![]() |
Cyfesurynnau | 51.6651°N 3.80348°W ![]() |
![]() | |
Statws treftadaeth | adeilad rhestredig Gradd II*, heneb gofrestredig ![]() |
Manylion | |
Dynodwr Cadw | GM039 ![]() |
Cau
Codwyd y castell gwreiddiol gan Robert, Iarll Caerloyw, yn y 12g. Mae ei hanes cynnar yn dywyll ond ei brif bwrpas oedd gwarchod ffin orllewinol Arglwyddiaeth Morgannwg.[1]
Ymosodwyd ar y castell gan arglwyddi Cymreig Morgannwg ar ddiwedd y flwyddyn 1183.[2]
Yn y flwyddyn 1231 arweiniodd y Tywysog Llywelyn Fawr ymgyrch mawr yn ne Cymru. Llosgwyd y castell a'r dref gan ei fyddin.[3] Ailadeiladwyd y castell ar ôl hynny ond fe'i dinistrwyd eto ar ddechrau'r 14g fel rhan o wrthryfel lleol yn erbyn Hugh Despenser, Arglwydd Morgannwg.[1]