![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/08/Swetnam%252C_the_Woman-hater%252C_arraigned_by_women.jpg/640px-Swetnam%252C_the_Woman-hater%252C_arraigned_by_women.jpg&w=640&q=50)
Casineb at wragedd
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae casineb at wragedd neu gwreig-gasineb (Saesneg: Misogyny) yn casineb tuag at, neu ragfarn yn erbyn merched neu ferched. Mae'n fath o rywiaeth sy'n gallu cadw merched ar statws cymdeithasol is na dynion, a thrwy hynny gynnal rolau cymdeithasol patriarchaeth. Mae casineb at wragedd wedi cael ei arfer yn helaeth ers miloedd o flynyddoedd. Fe'i hadlewyrchir mewn celf, llenyddiaeth, strwythur cymdeithas ddynol, digwyddiadau hanesyddol, mytholeg, athroniaeth, a chrefydd ledled y byd.[1][2][3]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/0/08/Swetnam%2C_the_Woman-hater%2C_arraigned_by_women.jpg/640px-Swetnam%2C_the_Woman-hater%2C_arraigned_by_women.jpg)
Enghraifft o casineb at wragedd yw trais yn erbyn menywod, sy'n cynnwys trais yn y cartref ac, yn ei ffurfiau mwyaf eithafol, terfysgaeth gwreig-gasineb a benywladdiad. Mae casineb at wragedd hefyd yn aml yn gweithredu trwy aflonyddu rhywiol, gorfodaeth, a thechnegau seicolegol gyda'r nod o reoli menywod, a thrwy eithrio menywod yn gyfreithiol neu'n gymdeithasol o ddinasyddiaeth lawn. Mewn rhai achosion, mae casineb at wragedd yn gwobrwyo merched am dderbyn statws israddol.[4][5]
Gellir deall casineb at wragedd fel agwedd unigolion, yn bennaf gan ddynion, ac fel arferiad neu system ddiwylliannol eang. Weithiau y mae casineb at wragedd yn amlygu mewn ffyrdd amlwg a beiddgar; adegau eraill mae'n fwy cynnil neu wedi'i guddio mewn ffyrdd sy'n darparu gwadu credadwy.[6]
Mewn meddwl ffeministaidd, mae casineb at wragedd hefyd yn cynnwys gwrthod rhinweddau benywaidd. Mae'n dirmygu sefydliadau, gwaith, hobïau, neu arferion sy'n gysylltiedig â merched. Mae'n ymwrthod ag unrhyw agweddau ar ddynion sy'n cael eu hystyried yn fenywaidd neu'n anwrol. Gall hiliaeth a rhagfarnau eraill atgyfnerthu a gorgyffwrdd â chasineb at wragedd.