![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/ff/Carmel_village_-_geograph.org.uk_-_141351.jpg/640px-Carmel_village_-_geograph.org.uk_-_141351.jpg&w=640&q=50)
Carmel, Gwynedd
pentref yng Ngwynedd / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Carmel ( ynganiad ) yn bentref yn Nyffryn Nantlle yng Ngwynedd, rhwng Groeslon ac Y Fron. Saif wrth droed Mynydd y Cilgwyn. Datblygodd fel man i weithwyr yn chwareli llechi y cylch fyw. Enwyd y pentref ar ôl capel y Methodistiaid Calfinaidd a sefydlwyd yma ym 1827. Cafodd y capel ei enw o'r enw beiblaidd hwnnw: Mynydd Carmel.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | pentref ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.0708°N 4.2497°W ![]() |
Cod OS | SH492550 ![]() |
Gwleidyddiaeth | |
AC/au | Siân Gwenllian (Plaid Cymru) |
AS/au | Hywel Williams (Plaid Cymru) |
![]() | |
Cau
- Am leoedd eraill o'r un enw, gweler Carmel (gwahaniaethau).
Datblygwyd y pentref yn union uwchben safle'r gât ar hen wal y mynydd, ar y groesffordd rhwng y ffordd o'r arfordir i'r tir comin, a'r ffordd dros y comin ei hunan.
Ymhlith enwogion a aned yng Ngharmel mae Ifor Pritchard (artist/athro), Syr Thomas Parry a'i frawd Gruffudd Parry a Dafydd Glyn Jones sydd yn berthynas iddynt.