Carchar Trefynwy
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Hen Garchar Sir Fynwy yn adeilad sy'n perthyn i'r 18g ac sydd wedi'i leoli yn North Parade, Trefynwy, Sir Fynwy, Cymru. Dyma oedd prif garchar y sir pan agorwyd ei ddrysau cadarn yn 1790.[1] Edrychai'n debyg i gaer canoloesol ond mai ei bwrpas oedd cadw pobl o'i fewn ac nid eu cadw allan. Arferid crogi drwgweithredwyr yma hyd at y 1850au; yn wir daeth cymaint â 3,000 o bobl yma i wylio'r crogi diwethaf.[2]
Math | adeilad |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Sir Fynwy |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 51.81703°N 2.71358°W |
Cost | 5,000 punt sterling |
Roedd arwynebedd y carchar yn arfer bod tua thair erw ac roedd yn cynnwys capel, ysbyty, celloedd a melin-droed.[2] Caewyd y drysau am y tro diwethaf yn 1869.[3] Yn 1884 dymchwelwyd llawer o'r adeiladau, ac nid oes bellach namyn y porthdy hwn (neu'r gatehouse)[3] sydd yn adeilad rhestredig Gradd II. Oddi fewn i'r adeilad ceir darlun gwydr o'r hen garchar.[1]
Mae'n un o ddau-ddeg-pedwar adeilad yn Nhrefynwy sydd ar y Llwybr Treftadaeth (plac glas).