![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/0/08/Carcharorion_Gwyddeleg_Frongoch.jpg/640px-Carcharorion_Gwyddeleg_Frongoch.jpg&w=640&q=50)
Carchar Gwersyll Fron-goch
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Gwersyll Carchar Fron-goch ( ynganiad ) yn garchar dros dro ym mhentref Fron-goch ger Y Bala.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
Math | gwersyll crynhoi ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 52.939°N 3.632°W ![]() |
![]() | |
Cau
Cafodd carcharorion rhyfel Almaenig eu cadw yno yn ystod rhan gyntaf y Rhyfel Byd Cyntaf, ond yn dilyn Gwrthryfel y Pasg yn Iwerddon ym 1916 cafodd yr Almaenwyr eu disodli gan dros 1,800 o wirfoddolwyr yr Irish Republican Brotherhood (yr IRA yn ddiweddarach) yn cynnwys rhai o brif arweinwyr fel Michael Collins.[1]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/0/08/Carcharorion_Gwyddeleg_Frongoch.jpg/640px-Carcharorion_Gwyddeleg_Frongoch.jpg)
Heddiw nid oes dim o'r hen wersyll ar ôl, mae Ysgol Bro Tryweryn yn sefyll ar safle'r hen wersyll.
Yn 2002 fe godwyd cofeb ar ochr ffordd yr A4212 yn y pentref mewn tair iaith, Cymraeg, Gwyddeleg a Saesneg i nodi hanes y gwersyll.[2]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/f/f3/Memorial_stone_and_plaque_at_Frongoch.jpg/640px-Memorial_stone_and_plaque_at_Frongoch.jpg)