Capel yr Ogof Laeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Capel Ogof Laeth y Forwyn Fair ( Lladin: Crypta lactea; Arabeg: مغارةآلسثئ) a elwir hefyd yn syml, yn Capel yr Ogof Laeth yn gapel Catholig ym Methlehem yn y Lan Orllewinol ym Mhalestina, a godwyd ym 1872.[1][2][3][4] Ers amseroedd Bysantaidd, mae'r lle wedi bod yn ganolfan pererindod Gristnogol bwysig. Yn rhan o'r adeiladau ceir hefyd gysegrfa a mynachlog yr Eglwys Gatholig ym Mhalestina. Mae'r Status Quo, sef dealltwriaeth 250 oed rhwng cymunedau crefyddol, yn berthnasol i'r safle.[5]
Ffeithiau sydyn Enghraifft o'r canlynol, Crefydd ...
Enghraifft o'r canlynol | capel |
---|---|
Crefydd | Catholigiaeth |
Dechrau/Sefydlu | 1872 |
Enw brodorol | Crypta lactea |
Gwladwriaeth | Gwladwriaeth Palesteina |
Rhanbarth | Bethlehem |
Gwefan | https://www.custodia.org/it/santuari/betlemme |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Cau