![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8f/Bugsworth_058079.jpg/640px-Bugsworth_058079.jpg&w=640&q=50)
Camlas Peak Forest
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Camlas Peak Forest yn 14.8 milltir o hyd ac yn estyn o Gamlas Ashton ar gyrion Manceinion i Whaley Bridge, lle mae cysylltiad ym Masn Bugsworth efo tramffyrdd o chwareli calchfaen Swydd Derby.
Ffeithiau sydyn Math, Daearyddiaeth ...
![]() | |
Math | camlas ![]() |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Bwrdeistref Fetropolitan Tameside, Bwrdeistref Fetropolitan Stockport, Bwrdeistref High Peak, Dwyrain Swydd Gaer ![]() |
Gwlad | ![]() |
Cyfesurynnau | 53.366°N 2.054°W ![]() |
![]() | |
Cau
Gwahanir y gamlas rhwng y gamlas uwch a chamlas is gan 16 o lociau yn codi’r gamlas 209 troedfedd ym Marple. Ystyriwyd adeiladu plân ar oleddf, ond roedd lociau’n fwy effeithiol. Adeiladwyd Traphont Marple hefyd, dros Afon Goyt.[1] Mae cyffwrdd efo Camlas Macclesfield, ym Marple. Agorwyd Camlas Macclesfield ym 1831, yn cynyddu traffig ar Gamlas Peak Forest,yn cynnwys cludiant rhwng Manceinion a Llundain. Agorwyd Rheilffordd Cromford a High Peak ym 1831 hefyd, y creu cysylltiad efo Camlas Cromford ac felly efo Derby a Chesterfield.[2]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/7/75/Marple02LB.jpg/640px-Marple02LB.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/cy/thumb/a/a6/Marple03LB.jpg/640px-Marple03LB.jpg)