bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog From Wikipedia, the free encyclopedia
Bwrdeistref fetropolitan yng Ngorllewin Swydd Efrog, Swydd Efrog a'r Humber, Lloegr, yw Calderdale.
Math | bwrdeistref fetropolitan |
---|---|
Ardal weinyddol | Gorllewin Swydd Efrog |
Prifddinas | Halifax |
Poblogaeth | 210,082 |
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Sir | Gorllewin Swydd Efrog (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Arwynebedd | 363.9608 km² |
Cyfesurynnau | 53.72°N 1.97°W |
Cod SYG | E08000033 |
GB-CLD | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | council of Calderdale Metropolitan Borough Council |
Mae gan y fwrdeistref arwynebedd o 364 km², gyda 211,455 o boblogaeth yn ôl amcangyfrif cyfrifiad 2019.[1] Mae'n ffinio ar Ddinas Bradford i'r gogledd-ddwyrain, Kirklees i'r de-ddwyrain, Manceinion Fwyaf i'r de-orllewin, a Swydd Gaerhirfryn i'r gogledd-orllewin.
Ffurfiwyd y fwrdeistref dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974. Yn wreiddiol daeth o dan reolaeth cyngor sir fetropolitan Gorllewin Swydd Efrog, ond ym 1986, fel yr holl fwrdeistrefi metropolitan eraill yn Lloegr, daeth yn awdurdod unedol i bob pwrpas.
Rhennir y fwrdeistref yn saith plwyf sifil, gydag ardal ddi-blwyf sy'n cynnwys tref Halifax, lle mae ei phencadlys. Mae aneddiadau eraill ynddi'n cynnwys trefi Brighouse, Elland, Hebden Bridge, Mytholmroyd, Sowerby Bridge a Todmorden.
Enwir y fwrdeistref ar ôl Afon Calder, y mae ei dyfroedd uchaf yn llifo trwyddi.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.