Caerllion
pentref yn Ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
pentref yn Ne Cymru From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Casnewydd, Cymru, yw Caerllion, hefyd Caerllion-ar-Wysg (Saesneg: Caerleon). Saif ar lannau gorllewinol Afon Wysg, ger dinas Casnewydd. Ystyr Caerllion ydy 'caer y llengoedd'.
Yn y cyfnod Rhufeinig, fel Isca Silurum, roedd Caerllion yn ganolfan i'r lleng Legio II Augusta. Symudodd y lleng i Gaerllion tua'r flwyddyn 74, a bu yma am ganrifoedd, efallai tan ddechrau'r 4g. Mae'r olion o'r cyfnod yma yn parhau i fod yn nodwedd amlycaf Caerllion. Ymhlith yr olion mae olion barics y llengfilwyr, y baddondy, y muriau oedd yn amgylchynu'r gaer, a'r amffitheatr tu allan i'r muriau. Enw Rhufeinig ar y dref oedd 'Iskalis' a ddaeth o enw'r afon: Wysg.
Yn yr Historia Regum Britanniae gan Sieffre o Fynwy, Caerllion yw prifddinas y Brenin Arthur.
Tua dwy neu dair km i'r gogledd-orllewin saif Mwnt y Castell, sef hen domen mwnt a beili.
Roedd Caerllion yn leoliad i Coleg Hyfforddi Sir Fynwy a sefydlwyd yn 1914. Roedd y Coleg yn hyfforddi dynion i ddod yn athrawon. Yn 1962 agorwyd y Coleg ar gyfer myfyrwyr benywaidd. Yn 1975 daeth y Coleg yn rhan o Goleg Addysg Uwcg Gwent, ac wedi hynny, yn rhan o Brifysgol De Cymru.
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Caerllion (pob oed) (8,061) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Caerllion) (774) | 9.8% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Caerllion) (6117) | 75.9% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Caerllion) (1,174) | 34.2% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.