Cadwyn Bloc
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae cadwyn bloc ('blockchain' yn Saesneg),[1][2][3] yn rhestr o gofnodion o’r enw 'blociau' sydd wedi’u cysylltu â’i gilydd gan ddefnyddio cryptograffeg.[4] Mae gan bob bloc ei stwnsh cryptograffig o’r bloc blaenorol, stamp amser, a data trafod (fel arfer ar ffurf stwnsh gwreiddyn coeden ‘merkle’. Mae blockchain wedi’i dylunio i wrthsefyll addasiadau i’r data. Mae’n ‘gyfriflyfr gwasgaredig ac agored sy’n gallu cofnodi trafodion rhwng dau barti yn effeithlon ac mewn dull parhaol a gwiriadwy’.[5] Pan yn cael ei ddefnyddio fel cyfriflyfr gwasgaredig, mae blockchain fel arfer yn cael ei reoli gan rwydwaith cymar-i-gymar sy’n cadw at brotocol ar gyfer cyfarthrebu rhwng-nod a dilysu blociau newydd. Unwaith mae wedi’u cofnodi, nid yw’r data mewn unrhyw bloc penodol yn gallu cael ei addasu yn ôl-weithredol heb addasu’r holl flociau canlynol, gyda chydsyniad mwyafrif y rhwydwaith.
![]() | |
Enghraifft o'r canlynol | cysyniad, disgyblaeth academaidd, arbenigedd, maes astudiaeth ![]() |
---|---|
Math | distributed ledger, cronfa ddata, distributed data store, computer network protocol, strwythur data, list ![]() |
Yn cynnwys | block ![]() |
![]() |
Er nad yw cofnodion blockchain yn amhosib i’w haddasu, gall blockchains cael eu hystyried yn ddiogel ac yn enghtaifft o system gyfrifiadurol wasgaredig gyda goddefiad gwall Bysantaidd uchel. Mae consensws datganoledig felly yn cael ei hawlio trwy blockchain.[6]
Dyfeisiwyd blockchain gan Satoshi Nakamoto yn 2008 fel cyfriflyfr ar gyfer trafodion y ‘cryptocurrency’ bitcoin.[1] Gyda dyfeisio blockchain, daeth bitcoin yn yr arian digidol cyntaf i ddatrys y broblem gwario-ddwywaith heb fod angen awdurdod sicr neu weinydd canolog. Mae dyluniad bitcoin wedi ysbrydoli cymwysiadau eraill. [1][3]