Britannia Inferior
From Wikipedia, the free encyclopedia
Talaith Rufeinig ar Ynys Prydain oedd Britannia Inferior ("Prydain Isaf"). Roedd yn un o'r ddwy dalaith a grewyd tua 197 OC, pan rannodd yr ymerawdwr Septimius Severus dalaith Britannia yn ddwy; y dalaith arall oedd Britannia Superior.
Ffeithiau sydyn Math, Prifddinas ...
Math | Talaith Rufeinig |
---|---|
Prifddinas | Eboracum |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Britannia |
Gwlad | Rhufain hynafol |
Cyfnod daearegol | yr Ymerodraeth Rufeinig |
Cau
Roedd prifddinas Britannia Inferior yn Eboracum (Efrog), ac roedd yn cynnwys rhan ogleddol Lloegr. Yn Londinium (Llundain) yr oedd prifddinas Britannia Superior, oedd yn cynnwys rhan ddeheuol Lloegr a'r cyfan o Gymru, ond nid oes sicrwydd ymhle yr oedd y ffîn rhwng y ddwy dalaith.
Tua 293, dan yr ymerawdwr Diocletian, rhannwyd talaith Britannia Inferior yn ddwy: Britannia Secunda a Flavia Caesariensis.