![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/98/Comedian_Bob_Newhart.jpg/640px-Comedian_Bob_Newhart.jpg&w=640&q=50)
Bob Newhart
From Wikipedia, the free encyclopedia
Actor a digrifwr ffilm o'r Unol Daleithiau oedd George Robert "Bob" Newhart (5 Medi 1929 – 18 Gorffennaf 2024). Roedd yn adnabyddus am ei arddull di-wên a'r ffordd roedd yn siarad gydag atal dweud. Cychwynnodd fel digrifwr stand-up, cyn newid ei yrfa i actio ar deledu. Cafodd sawl gwobr, yn cynnwys tri Gwobr Grammy, Gwobr Emmy a Gwobr Golden Globe. Derbyniodd Wobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd yn 2002.
Bob Newhart | |
---|---|
![]() | |
Ffugenw | Bob Newhart ![]() |
Ganwyd | George Robert Newhart ![]() 5 Medi 1929 ![]() Oak Park, Illinois ![]() |
Bu farw | 18 Gorffennaf 2024 ![]() Los Angeles ![]() |
Label recordio | Warner Bros. Records ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | digrifwr, actor teledu, actor ffilm, actor llais, actor ![]() |
Arddull | deadpan, dychan, comedi arsylwadol ![]() |
Prif ddylanwad | Irwin Corey ![]() |
Priod | Ginnie Newhart ![]() |
Perthnasau | Paul Brittain, Bill Quinn ![]() |
Gwobr/au | Gwobr Gammy am yr Artist Newydd Gorau, Gwobr Mark Twain am Hiwmor Americanaidd, Primetime Emmy Award for Outstanding Guest Actor in a Comedy Series, seren ar Rodfa Enwogion Hollywood ![]() |
Fe'i ganwyd yn Oak Park, Illinois, yn fab i George David Newhart (1899–1986) a'i wraig Julia Pauline (née Burns; 1901–1991).
Daeth i amlygrwydd yn 1960 gyda'i record o ymsonau digrif The Button-Down Mind of Bob Newhart, a werthodd yn dda iawn a chyrraedd rhif un ar siart pop Billboard; mae'n parhau i fod yr 20fed albwm gomedi a werthodd fwyaf erioed.[1] Roedd yr albwm dilynol, The Button-Down Mind Strikes Back!, yn llwyddiant hefyd, ac ar un adeg y ddau albwm oedd rhif un a rhif dau yn siart Billboard.[2]
Cyflwynodd Newhart sioe adloniant ar NBC o'r enw The Bob Newhart Show (1961) cyn chwarae rhan y seicolegydd Robert Hartley rhwng 1972 a 1978 ac yna'r tafarnwr Dick Loudon ar gyfres Newhart o 1982 i 1990. Cafodd ddwy gomedi sefyllfa byrhoedlog yn y 1990au, Bob a George and leo. Actiodd Newhart mewn ffilmiau fel Catch-22 (1970), Cold Turkey (1971), In & Out (1997), ac Elf (2003). Lleisiodd Bernard yn y ffilmiau animeddiedig Disney The Rescuers (1977) a The Rescuers Down Under (1990). Chwaraeodd Professor Proton ar gomedi sefyllfa The Big Bang Theory rhwng 2013 a 2018, a derbyniodd ei Wobr Emmy Primetime cyntaf am y rhan.[3]
Bu farw yn 94 mlwydd oed, yn ei gartref yn Los Angeles, wedi sawl salwch byr.[4][5]