![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/c/cc/BlogActive.com_Screenshot_2004.jpg/640px-BlogActive.com_Screenshot_2004.jpg&w=640&q=50)
Blog
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwefan gan unigolyn neu grŵp sy'n cael ei ddiweddaru'n gyson gyda chofnodion mewn trefn wrth-gronolegol, gan amlaf gan ddefnyddio meddalwedd rheoli cynnwys megis Blogger, LiveJournal neu WordPress yw blog.
![]() | |
Math | gwefan, cyfnodolyn, social media, digital-native publication ![]() |
---|---|
Label brodorol | blogue ![]() |
Rhan o | Y rhyngrwyd ![]() |
Yn cynnwys | blog post ![]() |
Gwneuthurwr | blogiwr ![]() |
Enw brodorol | blogue ![]() |
![]() |
Mae'r term ''Blog'' yn dalfyriad o'r term Saesneg ''Web log'', a ddefnyddwyd yn wreiddiol i ddisgrifio cofnodion, neu log, o bethau diddorol roedd person yn eu darganfod ar y we.[1]
Nodweddir blogiau hefyd gan y gallu i roi sylwadau ar gofnodion, yn ogystal â ffrydiau RSS, sydd yn galluogi darllenwyr i dderbyn y cofnodion diweddaraf trwy ddarllenwr RSS. Mae RSS hefyd yn golygu y gall cynnwys blog gael ei ddosbarthu i wefannau eraill yn awtomatig wrth iddynt gael eu ddiweddaru.
Gall testun blog amrywio o hynt a helynt bywyd personol yr awdur i ganolbwyntio ar bwnc penodol, fel chwaraeon, crefydd neu wleidyddiaeth.[2] Mae yna hefyd flogiau sydd yn arbennig ar gyfer cofnodi lluniau yn uniongyrchol o ffôn symudol neu wedi eu llwytho o gamera digidol.