pentref yng Nghastell-nedd Port Talbot From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref a chymuned ym mwrdeisdref sirol Castell-nedd Port Talbot, Cymru, yw Blaen-gwrach,[1] hefyd Blaengwrach.[2] Saif ar lan ddwyreiniol afon Nedd, i'r gogledd-ddwyrain o Resolfen. Roedd poblogaeth y gymuned yn 2001 yn 1,148.
Math | cymuned |
---|---|
Poblogaeth | 1,141, 1,071 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Castell-nedd Port Talbot |
Gwlad | Cymru |
Arwynebedd | 1,466.21 ha |
Cyfesurynnau | 51.734°N 3.6406°W |
Cod SYG | W04000602 |
Cod OS | SN868052 |
Gwleidyddiaeth | |
AS/au Cymru | Jeremy Miles (Llafur) |
AS/au y DU | Carolyn Harris (Llafur) |
Mae'r ardal yn un fryniog, yn cynnwys Mynydd Resolfen (383 medr), Mynydd Pen-y-Cae (573 m) a Chraig-y-Llyn (600 m). Mae dwy ran i'r pentref, Blaen-gwrach a Cwm-gwrach, ond yn aml defnyddir Cwm-gwrach am y pentref a Blaen-gwrach ar gyfer yr ardal ehangach.
Ceir olion o gangen o Gamlas Nedd yma, ac roedd gwaith haearn Penallt ar agor rhwng 1839 ac 1854. Roedd capel Anghydffurfiol cynnar yma, a sefydlwyd yn 1662; troes yn achos Undodaidd yn 1772 a chaeodd yn 1878.
Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Jeremy Miles (Llafur)[3] ac yn Senedd y DU gan Carolyn Harris (Llafur).[4]
Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[5][6][7][8]
Cyfrifiad 2011 | ||||
---|---|---|---|---|
Poblogaeth cymuned Blaen-gwrach (pob oed) (1,141) | 100% | |||
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Blaen-gwrach) (162) | 14.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 19% | |||
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Blaen-gwrach) (998) | 87.5% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 73% | |||
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Blaen-gwrach) (174) | 37.7% | |||
:Y ganran drwy Gymru | 67.1% |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.