![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/1/1e/NBC-Mask_M-17.jpg/640px-NBC-Mask_M-17.jpg&w=640&q=50)
Bioderfysgaeth
From Wikipedia, the free encyclopedia
Ffurf ar derfysgaeth yw bioderfysgaeth sydd yn defnyddio cyfryngau biolegol megis bacteria, firysau, ffyngau, neu docsinau i achosi niwed a chodi braw ar bobl. Yn wahanol i ddulliau cyffredin o derfysgaeth, sy'n defnyddio mân-arfau, cerbydau neu ffrwydron, mae bioderfysgaeth yn troi cyfryngau biolegol yn arfau anweladwy i frawychu ac felly ennill sylw i'r terfysgwr, yn aml gyda'r nod o orfodi rhyw newid gwleidyddol. Gall y cyfryngau hyn fod yn naturiol neu wedi eu haddasu'n genetig i gynyddu eu gwenwyndra, eu gallu i oroesi, neu eu natur drosglwyddadwy.[1]
Prif amcanion bioderfysgaeth yw achosi afiechyd a llofruddiaeth ar raddfa eang, aflonyddu bywyd bob dydd, codi arswyd ar y cyhoedd, ac ansefydlogi'r gymdeithas. Gall canlyniadau ymosodiad bioderfysgol gynnwys marwolaethau, straen ar wasanaethau gofal iechyd, effeithiau economaidd, a thrawma seicolegol ar gymunedau. Yn ogystal â'r effeithiau uniongyrchol, gall achosi niwed hir-dymor i iechyd cyhoeddus, cydlyniad cymdeithasol, ac ymddiriedaeth mewn sefydliadau.
Ymhlith y cyfryngau a adnabyddir fel bygythiadau posib o fioderfysgaeth mae anthracs, y frech wen, tocsin botwlinwm (sy'n achosi botwliaeth), tularemia, twymynau gwaedlifol firaol (er enghraifft Ebola a Marburg), y pla, risin, a rhai straeniau o'r ffliw.