From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Binig (Ffrangeg: Binic, Galaweg: Binic) yn gymuned (Llydaweg: kumunioù; Ffrangeg: communes) yn Departamant Aodoù-an-Arvor (Ffrangeg| Département Côtes-d'Armor), Llydaw. Mae'n 11 km o Sant-Brieg; 381 km o Baris a 426 km o Calais[1]
Mae Binig yn dref glan môr poblogaidd sydd yn enwog am ei draethau. Mae'r dref wedi ei leoli yn rhan orllewinol bae Saint-Brieuc. Mae ei marina yn hygyrch yn unig ar lanw uchel ac yn cynnig 500 o leoedd i gychod.
Cyn dod yn gyrchfan i dwristiaid roedd Binig yn borthladd pysgota o gryn bwys a oedd yn danfon llongau pysgota i'r moroedd o amgylch yr Gwlad yr Iâ ac arfordir Canada ac yn un o borthladdoedd penfras mwyaf Ffrainc; bu hefyd yn borthladd pwysig ar gyfer mewnforio coed, blawd a llysiau.
Bu dirywiad yng ngweithgaredd y porthladd ers y 1920, er bod rhywfaint o bysgota am sgolop yn parhau o hyd.
Ers dirywiad y porthladd mae twristiaeth wedi dod yn fwyfwy poblogaidd i'r dref.[2]
Mae Binig hefyd yn enwog am nifer o'r gwyliau sydd yn cael eu cynnal yno, gan gynnwys gŵyl canu gwerin a'r felan flynyddol sy'n gyrchfan i hyd at 40,000 o bobl.[3] Mae'n ffinio gyda Lannidig, Porzhig ac mae ganddi boblogaeth o tua 3,826 (1 Ionawr 2018).
Tabl newid poblogaeth: blwyddyn nifer | ||||||||
1831 | 1836 | 1841 | 1846 | 1851 | 1856 | 1861 | 1866 | 1872 |
1 828 | 2 229 | 2 324 | 2 407 | 2 640 | 2 811 | 2 673 | 2 738 | 3 458 |
1876 | 1881 | 1886 | 1891 | 1896 | 1901 | 1906 | 1911 | 1921 |
2 457 | 2 231 | 2 379 | 2 222 | 2 305 | 2 247 | 2 231 | 2 356 | 2 342 |
1926 | 1931 | 1936 | 1946 | 1954 | 1962 | 1968 | 1975 | 1982 |
2 223 | 2 141 | 2 140 | 2 241 | 2 261 | 2 099 | 2 212 | 2 326 | 2 602 |
1990 | 1999 | 2008 | 2013 | - | - | - | - | - |
2 798 | 3 110 | 3 528 | 3 825 | - | - | - | - | - |
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.