From Wikipedia, the free encyclopedia
Pentref bychan a phlwyf sifil yn sir seremonïol Swydd Amwythig, Gorllewin Canolbarth Lloegr, yw Betws-y-crwyn neu Betwsycrowyn (Saesneg: Bettws-y-Crwyn).[1] Fe'i lleolir yn awdurdod unedol Swydd Amwythig. Saif y pentref o fewn milltir a hanner i'r ffin â Chymru, ac mae'n un o nifer o bentrefi Seisnig sydd ag enw Cymraeg arnynt. Gorwedd 400m uwch lefel y môr, sy'n ei wneud yn un o'r pentrefi uchaf yn Swydd Amwythig, a Lloegr hefyd. Fe'i lleolir tua 16 milltir i'r gorllewin o dref Craven Arms, Swydd Amwythig, a 9 milltir i'r de-ddwyrain o'r Drenewydd, Powys.
Math | pentref, plwyf sifil |
---|---|
Ardal weinyddol | Swydd Amwythig |
Poblogaeth | 197 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Swydd Amwythig (Sir seremonïol) |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 52.423°N 3.171°W |
Cod SYG | E04011220, E04008483 |
Cod OS | SO203812 |
Cod post | LD7 |
Y pentref agosaf yw Quabbs. Mae amlwd Anchor yn gorwedd o fewn y plwyf yn ogystal.
Y gair betws, benthyciad o'r Hen Saesneg bed-hus ('tŷ gweddi, capel') yw elfen gyntaf yr enw.[2] Ond ymddengys nad y gair cyfarwydd crwyn (ffurf lusog croen) sydd yn yr ail ran.[3] Wrth drafod yr enw, awgrymodd Eilert Ekwall, '[it] may be Welsh crowyn 'pigsty'.[4] Cytunodd Margaret Gelling â'r awgrym[5] ac mae prosiect 'Key to English Place-names' project Prifysgol Nottingham o'r un farn.[6] Mae gan y cair crowyn neu crewyn ystod o ystyron, gan gynnwys 'adeilad bychan y cedwir anifeiliaid ynddo, ffald, twlc, cut, cwb, cenel; cawell, basged'.[7]
Ysgrifennid yr enw gynt fel Bettus or Bettws. Nid yw'r ail elfen ('crewyn'/'crwyn') i'w gweld cyn y 19g.[5]
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.