![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6e/Bettie_Page.jpg/640px-Bettie_Page.jpg&w=640&q=50)
Bettie Page
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd Bettie Page (22 Ebrill 1923 – 11 Rhagfyr 2008) yn fodel Americanaidd a ddaeth yn enwog yn ystod y 1950au am ei modeli ffetis a'i lluniau pinyp. Dylanwadodd ei phryd a'i gwedd, gwallt du fel y fagddu a'i rhimyn o wallt ar nifer o artistiaid eraill.
Bettie Page | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | Bettie Mae Page ![]() 22 Ebrill 1923 ![]() Nashville, Tennessee ![]() |
Bu farw | 11 Rhagfyr 2008 ![]() Los Angeles ![]() |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | Playmate, model hanner noeth, model ![]() |
Taldra | 166 centimetr ![]() |
Pwysau | 58 cilogram ![]() |
Gwobr/au | Playboy Playmate y Mis ![]() |
Gwefan | https://www.bettiepage.com ![]() |
Roedd Bettie Page hefyd yn un o'r Playmates y Mis cynharaf ar gyfer cylchgrawn Playboy. Dywedodd sefydlwr Playboy, Hugh Hefner "Credaf ei bod yn wraig rhyfeddol, yn ffigwr eiconig yn niwylliant pop a ddylanwadodd ar rywioldeb, chwaeth ym myd ffasiwn, rhywun a gafodd ddylanwad aruthrol ar ein cymdeithas."[1]
Yn ystod ail hanner ei bywyd, dioddefodd o iselder, tymer treisgar a sawl blwyddyn mewn ysbyty meddwl.[2] Yn ystod y 1960au trodd at Gristnogaeth a gweithiodd fel cenhadwr y Bedyddwyr yn Angola. Ar ôl blynyddoedd o fywyd cymharol di-nod, ail-gynnwyd ei phoblogrwydd yn y 1980au ac mae ganddi genfogaeth gwlt sylweddol.