Betsi Cadwaladr
gweinyddes yn y Crimea / From Wikipedia, the free encyclopedia
Nyrs yn Rhyfel y Crimea oedd Elizabeth "Betsi" Cadwaladr (24 Mai 1789 – 17 Gorffennaf 1860). Newidiodd ei henw i Elizabeth Davies pan oedd yn gweithio yn Lerpwl am nad oedd y Saeson yn gallu ynganu ei henw. Enwir Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ar ei hôl.
Ffeithiau sydyn Ganwyd, Bu farw ...
Betsi Cadwaladr | |
---|---|
Ganwyd | 24 Mai 1789 ![]() Llanycil ![]() |
Bu farw | 17 Gorffennaf 1860 ![]() Llundain ![]() |
Dinasyddiaeth | ![]() |
Alma mater | |
Galwedigaeth | nyrs ![]() |
Tad | Dafydd Cadwaladr ![]() |
Cau
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/97/%27One_of_the_wards_in_the_hospital_at_Scutari%27._Wellcome_M0007724_-_restoration%2C_cropped.jpg/640px-%27One_of_the_wards_in_the_hospital_at_Scutari%27._Wellcome_M0007724_-_restoration%2C_cropped.jpg)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/8/8e/Betsi_Cadwaladr%2C_grave.jpg/640px-Betsi_Cadwaladr%2C_grave.jpg)
Brodor o ardal Llanycil ger Y Bala oedd Betsi ac yn ferch i weinidog o'r enw Dafydd Cadwaladr (1752-1834).[1] Ym 1854, a hithau'n chwe-deg-pump oed, penderfynodd fynd yn nyrs i Ryfel y Crimea ar ôl darllen am ddioddefaint y milwyr yno. Roedd cannoedd o filwyr yn marw am nad oedd digon o nyrsys a meddygon ar gael.