From Wikipedia, the free encyclopedia
Rhan ymadrodd sy'n mynegi gweithred, digwyddiad neu gyflwr o fod yw berf.[1] Diffiniad naïf fyddai mai gair gwneud (rhywbeth) yw berf. Daw'r gair Cymraeg ei hun o'r gair Lladin verbum ‘gair’.[2]
Enghraifft o'r canlynol | part of speech |
---|---|
Math | gair, content word |
Rhan o | word order |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Gall ffurf berf newid i ddangos person, rhif, amser a modd yn y Gymraeg. Mewn ieithoedd eraill, gall ddangos priodweddau eraill megis cenedl. Er enghraifft, dyma pob ffurf gryno posib y berf caru yn y Cymraeg llenyddol:
Unigol | Lluosog | ||
---|---|---|---|
Presennol | Person 1af | caraf | carwn |
2il berson | ceri | cerwch | |
3ydd person | câr | carant | |
Amhersonol | cerir | ||
Amherffaith | Person 1af | carwn | carem |
2il berson | carit | carech | |
3ydd person | carai | carent | |
Amhersonol | cerid | ||
Gorffennol | Person 1af | cerais | carasom |
2il berson | ceraist | carasoch | |
3ydd person | carodd | carasant | |
Amhersonol | carwyd | ||
Gorberffaith | Person 1af | caraswn | carasem |
2il berson | carasit | carasech | |
3ydd person | carasai | carasent | |
Amhersonol | caresid | ||
Unigol | Lluosog | ||
---|---|---|---|
Presennol | Person 1af | carwyf | carom |
2il berson | cerych | caroch | |
3ydd person | caro | caront | |
Amhersonol | carer | ||
Amherffaith | Person 1af | carwn | carem |
2il berson | carit | carech | |
3ydd person | carai | carent | |
Amhersonol | cerid | ||
Unigol | Lluosog | ||
---|---|---|---|
Presennol | Person 1af | carwn | |
2il berson | câr | cerwch | |
3ydd person | cared | carant | |
Amhersonol | carer | ||
Fel rheol, nid yw berfenwau fel bwyta yn cael eu cyfri fel berfau yn y Gymraeg, ond mae'u swyddogaeth yn debyg i ferfau anghyfyngedig a geir mewn llawer o ieithoedd.
Mae berf gryno (hefyd berf seml neu rediadol) fel un o'r ffurfiau o canu uchod, yn dangos person, amser ac ati yn ffurf y prif ferf. Ond gellir defnyddio berf arall fel bod i wneud y gwaith yma, gan adael y prif ferf fel berfenw yn unig. Gelwir hyn yn ferf gwmpasog, gan ei fod yn effeithio ar rannau arall o'r frawddeg. E.e. yn lle o Caraf ferch (ffurf gryno), gallwn ddweud Bydda i'n caru merch neu Dw i'n caru merch ac ati (ffurfiau cwmpasog).
Un ffordd o wahaniaethu rhwng ferfau yw falens; cyfanswm goddrychau a gwrthrychau'r ferf.
Mae'r math yma o ferf yn disgrifio rhywbeth sy'n digwydd (heb nodi pwy sy'n ei wneud nag i bwy). Enghraifft yw berf amhersonol fel canwyd cân yn y Gymraeg.
Gelwir berf sydd â goddrych, ond heb wrthrych yn ferf gyflawn. Er enghraifft, cysgodd Dafydd.
Mae gan ferf anghyflawn wrthrych yn ogystal â goddrych, er enghraifft, Bwytodd ef fwyd.
Goddrych a dau wrthrych sydd gan ferf o'r fath fel arfer, e.e. Rhoddod Siôn yr anrheg i Siân.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.