Bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid
From Wikipedia, the free encyclopedia
Roedd bathodynnau gwersylloedd crynhoi'r Natsïaid, trionglau'n bennaf, yn rhan o system adnabyddiaeth yng ngwersylloedd crynhoi'r Natsiaid. Cawsant eu defnyddio er mwyn gwybod paham fod carcharor wedi cael ei roi yno.[1] Gwnaed y trionglau hyn o ffabrig a chawsant eu gwnïo ar siacedi a chrysau'r carcharorion. Roedd gan y bathodynnau cywilydd hyn ystyr penodol, yn dibynnu ar eu siâp a'u lliw.