Barbara Windsor
actores a aned yn 1937 / From Wikipedia, the free encyclopedia
Actores Seisnig oedd y Fonesig Barbara Ann Windsor DBE (née Deeks) (6 Awst 1937 – 10 Rhagfyr 2020). Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl yn y ffilmiau Carry On ac am chwarae Peggy Mitchell yn opera sebon y BBC EastEnders. Fe'i disgrifwyd gan nifer fel 'trysor cenedlaethol'.[1]
Ffeithiau sydyn Llais, Ganwyd ...
Barbara Windsor | |
---|---|
Llais | Barbara Windsor voice.ogg |
Ganwyd | Barbara Ann Deeks 6 Awst 1937 Shoreditch |
Bu farw | 10 Rhagfyr 2020 o clefyd Alzheimer Llundain |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor, actor llwyfan, actor ffilm, hunangofiannydd |
Priod | Ronnie Knight |
Gwobr/au | MBE, Bonesig Cadlywydd Urdd yr Ymerodraeth Brydeinig, British Soap Award for Best Actress |
Gwefan | http://www.barbarawindsor.com |
Cau
Fe'i ganed yn Shoreditch, Llundain, yn ferch i John Deeks a'i wraig Rose (née Ellis). Cafodd ei addysg yn yr Ysgol Gynradd Santes Fair yn Stoke Newington, ac wedyn yn y Lleiandy Our Lady yn Stamford Hill.