![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/6/6a/Bara_Brith_%25283320696816%2529.jpg/640px-Bara_Brith_%25283320696816%2529.jpg&w=640&q=50)
Bara brith
bara ffrwythlon o darddiad Cymreig / From Wikipedia, the free encyclopedia
Bara llaith o Gymru sy'n cynnwys cyrens, rhesins neu syltanas, croen candi, a sbeis melys yw bara brith. Gweinir yn dafellau gyda menyn gan amlaf, am de'r prynhawn neu de mawr. Teisen furum yw bara brith yn draddodiadol, ond mae nifer o ryseitiau modern yn defnyddio ychwanegion megis soda pobi i'w lefeinio.[1]
![]() | |
Math | fruit bread, bwyd ![]() |
---|---|
Label brodorol | bara brith ![]() |
Rhan o | Coginiaeth yr Ariannin, Coginiaeth Cymru ![]() |
Yn cynnwys | baker's yeast ![]() |
Enw brodorol | bara brith ![]() |
![]() |
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/3/32/Bara_Brith.jpg/640px-Bara_Brith.jpg)
Yn wreiddiol câi bara brith ei pharatoi ar ddiwrnod pobi bara trwy ychwanegu siwgr, bloneg, ffrwythau sych a sbeis at does. Yn raddol, datblygodd y cymysgedd yn un fwy cyfoethog a defnyddiwyd burum i'w godi. Daeth y torth yn deisen amser te ar gyfer achlysuron arbennig mewn cymunedau amaethyddol a diwydiannol, megis y cynhaeaf gwair neu lafur, diwrnod dyrnu neu gneifio, a'r Nadolig.[2] Yng nghymoedd diwydiannol y de-ddwyrain yr enw arni yw teisen dorth.[3]