Banff a Buchan (etholaeth seneddol y DU)
From Wikipedia, the free encyclopedia
Mae Banff a Buchan yn etholaeth sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin, y DU sy'n ethol un Aelod Seneddol (AS) drwy'r system etholiadol 'y cyntaf i'r felin'. Yn 1983 yr etholwyd yr aelod cyntaf i gynrychioli'r etholaeth hon, ond rhaid cofio fod y ffiniau wedi newid rhyw ychydig ers hynny.
Ffeithiau sydyn Etholaeth gyfredol, Ffurfiwyd ...
Banff a Buchan | |
---|---|
Etholaeth Sirol ar gyfer Tŷ'r Cyffredin | |
Ffiniau Banff a Buchan yn Yr Alban. | |
Etholaeth gyfredol | |
Ffurfiwyd | 1983 |
Aelod Seneddol | David Duguid Ceidwadwyr yr Alban |
Gorgyffwrdd gyda: | |
Etholaeth Senedd Ewrop | Yr Alban |
Cau
Fe'i lleolir yng ngogledd-ddwyrain yr Alban, o fewn i Swydd Aberdeen.
Daliwyd yr etholaeth gan yr SNP rhwng 1987 a 2017. Fe'i cipiwyd yn 1987 gan Alex Salmond (a fu'n Brif Weinidog yr Alban) hyd at 2015 pan ildiodd ei sedd i Eilidh Whiteford (SNP) a symud i etholaeth Gordon. Trechwyd Eilidh Whiteford ym Mehefin 2017 gan David Duguid, Ceidwadwr.