![cover image](https://wikiwandv2-19431.kxcdn.com/_next/image?url=https://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/42/2007_Flag_of_Orkney.svg/langcy-640px-2007_Flag_of_Orkney.svg.png&w=640&q=50)
Baner Ynysoedd Erch
From Wikipedia, the free encyclopedia
Baner Cymuned Ynysoedd Erch ddaeth yn fuddugol mewn ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer baner swyddogol newydd fis Chwefror a Mawrth 2007.[1][2] Yn ystod yr ymgynghoriad hwn gofynnwyd i bobl Ynysoedd Erch ddewis eu hoff ddyluniad oddi ar restr fer o bump a oedd wedi'u cymeradwyo gan Lys yr Arglwydd Lyon.[3] Dyluniad Duncan Tullock o Birsay oedd yn fuddugol, a gafodd 53% o 200 o bleidleisiau'r cyhoedd.[4]
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/4/42/2007_Flag_of_Orkney.svg/640px-2007_Flag_of_Orkney.svg.png)
![Thumb image](http://upload.wikimedia.org/wikipedia/commons/thumb/9/91/Stromness_Town_House_with_Orkney_flag_flying_-_geograph.org.uk_-_950697.jpg/320px-Stromness_Town_House_with_Orkney_flag_flying_-_geograph.org.uk_-_950697.jpg)
Daw'r lliwiau coch a melyn o arfbeisiau Norwy a'r Alban a chynrychiola'r faner etifeddiaeth Albanaidd a Norwyaidd yr ynysoedd. Cymerwydd y lliw glas oddi ar faner yr Alban ac mae'n cynrychioli'r môr ac etifeddiaeth forwrol yr ynysoedd hefyd.
Mae'r faner newydd yn debyg i faneri Norwy (gwyn am felyn) ac Åland (y lliwiau o chwith). Tynnwyd sylw ei bod hi'n debyg i faner plaid ffasgaidd Vidkun Quisling yn Norwy, Nasjonal Samling[5], ym mis Mai 2007.[6]. Er hynny, nid oedd y groes las ar y faner honno, sy'n ei gwneud yn ddigon hawdd gwahaniaethu rhwng y ddwy. Dylid hefyd sôn bod baner goch a melen yn cael ei defnyddio gan bobl yn rhanbarth Skåne Swedeg ei hiaith flynyddoedd cyn i Nasjonal Samling ddefnyddio baner â chroes goch a melen. Ceir baner â chroes goch a melen gan Ffiniaid Swedeg hefyd.