Baner Sir Benfro
From Wikipedia, the free encyclopedia
Cynlluniwyd Baner Sir Benfro yn 2008 gan ddwy artist tecstilau: Eirian Short ac Audrey Walker a'i harddangos gyntaf yng Ngorymdaith Genedlaethol Gŵyl Ddewi ar 1 Mawrth 2009.[1] Fe'i seiliwyd ar eiriau Anthem Genedlaethol Gŵyl Ddewi (Cenwch y Clychau i Ddewi) gan Gwenno Dafydd a rhai o nodweddion pensaernïol Eglwys Gadeiriol Tyddewi a Phalas yr Esgob.
Gwnaed y faner gan aelodau o Gild Brodio Sir Benfro a Chymdeithas Gelfyddydau Abergwaun. Gellir ei gweld yn Eglwys Gadeiriol Tyddewi, Sir Benfro.