Baner Gweriniaeth y Congo
baner / From Wikipedia, the free encyclopedia
Mabwysiadwyd baner Gweriniaeth y Congo ar 15 Medi 1959, sef y diwrnod yr enillodd y wlad statws ymreolaeth o fewn Ffrainc. Mae'r faner yn seiliedig y lliwiau rhyng-Affricanaidd - gwyrdd, melyn, coch. Mae'r faner wedi ei ffurfio gan triongl sefydlog o wyrdd a coch yn gorwedd ar ochr y faner, gyda bar melyn yn rhedeg o'r chwith waelod i'r gornel dde uchaf. Ar 15 Awst, 1960, pan ddatganodd y wlad ei annibyniaeth, datganodd y faner fel un swyddogol y wladwriaeth newydd.[1]
Ni ddylid drysu Gweriniaeth Congo, sy'n gyn-drefedigaeth Ffrengig i'r gogledd orllewin o afon y Congo gyda'r wlawriaeth anferth o'r un enw sydd i'r de a'r dwyrain fu'n gyn drefedeigaeth Belgaidd a adnabwyd am beth amser fel Zaire, ond sydd bellach yn cael ei hadnabod fel Gweriniaeth Ddemocrataidd y Congo, ac sydd wedi newid ei baner sawl gwaith. Mae Baner Gweriniaeth Ddemocrataidd Congo yn wahanol, er fod gan y ddau linell lletraws, chwith waelod i dde uchaf ar eu baneri.