From Wikipedia, the free encyclopedia
Dinas annibynnol yn nhalaith Maryland, Unol Daleithiau America, yw Baltimore. Dyma ddinas fwyaf talaith Maryland. Lleolir Baltimore yng nghanolbarth Maryland ar lan Afon Patapsco, sy'n llifo i Fae Chesapeake. Cyfeirir at Baltimore fel Baltimore City weithiau er mwyn gwahaniaethu rhyngddi a Swydd Baltimore, sef yr ardal o'i chwmpas. Wedi'i sefydlu yn 1729, mae Baltimore yn un o borthladdoedd mwyaf yr Unol Daleithiau.
Math | dinas annibynnol |
---|---|
Enwyd ar ôl | Cecil Calvert, 2nd Baron Baltimore |
Poblogaeth | 585,708 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Brandon Scott |
Cylchfa amser | Cylchfa Amser y Dwyrain, UTC−05:00, UTC−04:00, America/Efrog Newydd |
Gefeilldref/i | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Baltimore metropolitan area |
Sir | Maryland |
Gwlad | Unol Daleithiau America |
Arwynebedd | 238.411179 km² |
Uwch y môr | 10 ±1 metr |
Gerllaw | Afon Patapsco, Jones Falls, Chesapeake Bay |
Yn ffinio gyda | Baltimore County, Anne Arundel County |
Cyfesurynnau | 39.2864°N 76.615°W |
Cod post | 21201–21298 |
Gwleidyddiaeth | |
Corff deddfwriaethol | Cyngor Dinas Baltimore |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Maer Baltimore |
Pennaeth y Llywodraeth | Brandon Scott |
Yn 2008, roedd 636,919 o bobl yn byw yn Baltimore, ond mae gan Ardal Fetropolitaidd Baltimore boblogaeth o tua 2.7 miliwn, yr 20fed fwyaf yn UDA.
Enwir y ddinas ar ôl yr Arglwydd Baltimore o Iwerddon, prif sefydlwr Gwladfa Maryland. Cymerodd Baltimore ei hun ei deitl o enw lle ym mhlwyf Bornacoola, yn Swydd Leitrim a Swydd Longford, Iwerddon. Seisnigiad yw 'Baltimore' o'r enw lle Gwyddeleg Baile an Tí Mhóir, sy'n golygu "Tre'r Tŷ Mawr" (nid yr un lle yw hwn â Baltimore, Swydd Corc, sef Dún na Séad yn Wyddeleg.
Seamless Wikipedia browsing. On steroids.
Every time you click a link to Wikipedia, Wiktionary or Wikiquote in your browser's search results, it will show the modern Wikiwand interface.
Wikiwand extension is a five stars, simple, with minimum permission required to keep your browsing private, safe and transparent.