Awyrfaen
From Wikipedia, the free encyclopedia
Gwrthrych bychan creigiog neu fetalaidd sy'n teithio drwy'r gofod yw awyrfaen (hefyd gwibfaen a maen mellt; Saesneg: Meteoroid).[1] Pan fo'r maen (neu garreg) yn teithio drwy atmosffer y Ddaear, fe'i elwir yn seren wib. Cyfeiriodd R. Williams Parry ato, yn ei soned Y Llwynog, gan ei gyffelybu i chwinciad o amser, byr ei dro: 'Digwyddodd, darfu, megis seren wib'.
Mae'r awyrfaen dipyn yn llai nag Asteroid - o dan un fetr o hyd, ond yn fwy na gronyn o dywod.[2] 'Llwch gofod' (neu weithiau: micro-awyrfaen) yw unrhyw wrthrych llai na maint gronyn.[3]
Pan fo comed (neu 'neu seren gynffon'), asteroid neu awyrfaen yn teithio drwy atmosffer y Ddaear ar gyflymder o dros 20 km/eil (72,000 km/awr; 45,000 mya), mae'r gwres yn cynhyrchu cynffon o olau, o'r gwrthrych ei hun ac o'r llwch mae'n ei adael o'i ôl. Gelwir y ffenomen hon yn 'seren wib' (Saesneg: meteor). Weithiau ceir cyfres ohonynt (e.e. ar ddechrau Awst, yn flynyddol), a gelwir hyn yn 'gawod o sêr gwib'. Gall yr awyrfaen naill ai 'losgi' yn ddim wrth deithio drwy'r atmosffer, neu ar adegau eraill fe all daro'r Ddaear a gelwir ef yn 'feteoryn' (ll. meteorynnau) (gweler y llun ar y dde).[4] 'Meteoryn', felly, yw'r rhan honno o'r awyrfaen sydd wedi llwyddo i deithio drwy atmosffer y Ddaear ac sydd ar wyneb y Ddaear, heb ei ddifa.
Wrth daro'r ddaear, mae'r meteorynnau mwy sylweddol eu maint yn gadael eu hôl ar ffurf craterau ardrawiad.