Avon (sir)
cyn sir an-fetropolitan yn Ne-orllewin Lloegr / From Wikipedia, the free encyclopedia
Sir yn rhanbarth De-orllewin Lloegr oedd Avon. Fe'i crëwyd fel sir an-fetropolitan dan Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, ar 1 Ebrill 1974 o fwrdeistrefi sirol Bryste a Chaerfaddon gyda rhannau o Swydd Gaerloyw a Gwlad yr Haf, ac fe'i diddymwyd ar 31 Mawrth 1996. Fe'i henwyd ar ôl Afon Avon sy'n llifo trwyddi.
Ffeithiau sydyn Math, Sefydlwyd ...
Math | sir an-fetropolitan, cyn endid gweinyddol tiriogaethol, siroedd seremonïol Lloegr |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Gwlad | Lloegr |
Cyfesurynnau | 51.45°N 2.583°W |
Cau
- Am leoedd eraill o'r un enw gweler Avon.
Roedd gan y sir arwynebedd o 1,346 km² gyda poblogaeth o 900,416 yng nghyfrifiad 1981. Roedd yn ffinio ar Swydd Gaerloyw i'r gogledd, Wiltshire i'r dwyrain, Gwlad yr Haf i'r de, a Môr Hafren i'r gorllewin.
Rhennid y sir yn chwech ardal an-fetropolitan:
- Northavon
- Bryste
- Kingswood
- Woodspring
- Wansdyke
- Caerfaddon
Diddymwyd y sir ym 1996. Fe'i disodlwyd gan bedwar awdurdod unedol:
- Dinas Bryste, a ddaeth yn swydd seremonïal hefyd
- De Swydd Gaerloyw, a ddaeth yn rhan o swydd seremonïal Swydd Gaerloyw
- Gogledd Gwlad yr Haf, a ddaeth yn rhan o swydd seremonïal Gwlad yr Haf
- Caerfaddon a Gogledd-ddwyrain Gwlad yr Haf, a ddaeth yn rhan o swydd seremonïal Gwlad yr Haf hefyd